Cyflwynwyd medalau heddiw i Joe Morgan a Lloyd Wolfe, enillwyr Prif Gystadlaethau’r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025.

Dyfarnwyd Medal Bobi Jones (19-25 oed) i Joe Morgan o Gaerdydd a Medal y Dysgwyr (Bl.10 ac o dan 19 oed) i Lloyd Wolfe, sydd hefyd o Gaerdydd.

Nod cystadlaethau Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr yw gwobrwyo unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg, sy’n ymfalchïo mewn Cymreictod ac yn gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg. Rhoddwyd nifer o dasgau amrywiol ac ymarferol i’r holl ymgeiswyr ar y Maes heddiw.

Y beirniaid ar gyfer y ddwy wobr eleni oedd Miriam Elin Jones ac Elin Meek. Noddwyd y ddefod gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol sydd hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol i ddysgwyr ar hyd y Maes heddiw, ar ddiwrnod dathlu dysgwyr yr Urdd.

Medal Bobi Jones

Mae Medal Bobi Jones yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 mlwydd oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu’r iaith, yr effaith mae dysgu’r Gymraeg wedi ei gael ar eu bywydau, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Daw Joe o Gaerdydd, ac mae yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio newyddiaduriaeth gyda chyfryngau a chyfathrebu.

Dywedodd: “Yn ystod fy amser yn y Brifysgol, dwi wedi ymuno â’r Gymdeithas Gymraeg i gael ymarfer mewn lle cymdeithasol a phrofi mwy o'r diwylliant.

“Dwi’n caru gwneud fideos ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg. Dw i’n gwneud hyn trwy roi cynnwys byr ar gyfryngau cymdeithasol fel TikTok ac Instagram a fideos hir ar YouTube. Dwi wedi datblygu fy nghariad am hyn yn ystod fy amser fel llysgennad y Coleg Cymraeg a dwi’n gyffrous i barhau gyda fy ngwaith gyda nhw eleni.

“Yn gyffredinol, mae fy nhaith i astudio’r iaith wedi fy ngalluogi i werthfawrogi ac i garu’r iaith a’i diwylliant, a dwi mor ddiolchgar am bob drws mae’r iaith wedi ei agor i fi.”

Ei frawd, Gwilym Morgan, oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

Dyfarnwyd Susanna Power o Gaerdydd yn ail a Deryn-Bach Allen-Dyer o Fro Morgannwg yn drydydd.

Lloyd Wolfe, enillydd Medal y Dysgwyr
Lloyd Wolfe, enillydd Medal y Dysgwyr (Urdd)

Medal y Dysgwyr

Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i berson ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 mlwydd oed sy’n gallu dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.

Allan o naw ymgeisydd, Lloyd Wolfe o Gaerdydd ddaeth i’r brig. Mae Lloyd yn astudio Lefel A mewn Cerddoriaeth, llenyddiaeth Saesneg, Drama a Chymraeg Ail Iaith yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.

Dywedodd Lloyd: “Yn fy amser hamdden dwi’n mwynhau cyfansoddi cerddoriaeth a mynychu gigs Cymraeg fel Tafwyl a Maes B.

“Dwi’n teimlo bod yr iaith Gymraeg wedi cael effaith mor enfawr ar fy mywyd i gan fy mod i’n ei defnyddio hi mewn bob agwedd o fywyd.

“Dwi’n defnyddio Cymraeg hefo fy ffrindiau ar draws Cymru ac yn enwedig hefo fy ngwaith fel llysgennad dros y Coleg Cymraeg eleni - mae’n gyfle mawr gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dyfarnwyd Alex McLean o Fynydd Isa yn ail a Georgia Jones o Sir y Fflint yn drydydd.

Rhoddir Medal Bobi Jones gan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe a Medal y Dysgwyr gan Tŷ'r Gwrhyd - Canolfan Gymraeg Cwm Tawe.