Bydd dathlu nawdd sant y cariadon yn dwyn “atgofion melys yn llawn alawon, storïau a chwerthin” i’r cof, yn ôl y perfformiwr amryddawn Ryland Teifi. Ac yntau wedi hen ymgartrefu yn yr Iwerddon erbyn hyn, bydd Ryland yn dychwelyd i’w gynefin yn Ffostrasol i gynnal ‘Noson Dathlu Santes Dwynwen’ yn neuadd y pentref.
“Dwi ddim yn cofio’r tro ola’ i mi gamu ar y llwyfan yno ond mae’r atgofion serch hynny’n llu - o sioeau Nadolig Ysgol Gynradd Capel Cynon i nosweithiau cawl Dydd Gŵyl Dewi,” meddai’r actor sydd hefyd yn cyflwyno’r rhaglen deledu ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’.
Ond yr atgof mwyaf sydd ganddo o’r neuadd yw’r noson anfarwol honno yn y 1980au pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Werin yno.
“Y Clwb Gwerin oedd yn gyfrifol am yr achlysur ac unigolion fel dad, Emyr Llew, Elfed Lewys a Dai Erwlon oedd y tu ôl i’r cwbl. Dwi ddim yn credu i Ffostrasol weld y fath noson gan fod pawb yn y pentre’ bron yn cymryd rhan.”
Ac mae’n siŵr y bydd cyfoedion Ryland aeth i Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul yn dal i’w gyfarch fel ‘Siop’ gan ddilyn yr arfer o gyfeirio at bobl yn ôl enwau eu cartrefi (arferai ei rieni Garnon a Linda Davies gadw siop y pentref). Gallwch dynnu’r bachgen o Ffostrasol ond gallwch chi ddim tynnu Ffostrasol o’r bachgen, medden nhw.
Ond er yr agosatrwydd, bydd dod adref yn brofiad chwerw-felys iddo hefyd.
Meddai: “Mae dychwelyd i berfformio yn neuadd Ffostrasol yn bleser ac yn anrhydedd ond mae’n orchwyl emosiynol hefyd. Doedd dim llais cryfach yn ypentre’ nag un dad ac fe fydd ei absenoldeb e’ a fy chwaer Tresi yn amlwg ac yn anodd,” meddai am ei anwyliaid a fu farw o fewn wyth mis i’w gilydd.
“Mae’r pentre’ wedi colli sawl cymeriad dros y blynyddoedd ac rydych chi’n gweld eisiau’r rheiny’n fwy pan mae pawb yn ymgynnull mewn lle mor gyfarwydd â’r neuadd. Allwn ni ddim dianc rhag y lleisiau mawr sy’ yn y gwynt o gwmpas Ffostrasol ond rwy’n freintiedig ‘mod i’n gallu rhannu ambell i stori amdanyn nhw yn y sioe. Rwy’n edrych ‘mlaen at ddod gartre’.”
Cynhelir Noson Dathlu Santes Dwynwen, dan nawdd Ffrindiau Ffostrasol a’r Cylch, yn Neuadd Ffostrasol ar nos Sadwrn, 27 Ionawr 2024. Tocynnau a manylion pellach: Owenna Davies: 01239 851402



_cropped.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.