Cafwyd noson o ganu ac adloniant ym Mhlas Dolguog, ger Machynlleth i godi arian at Apêl Ifan Maesycreiau, Llanwrin i helpu gyda’i driniaeth lleferydd a physiotherapy ar ôl cael strôc.
Mwynhawyd adloniant gan Llond Car ac un yn y Bwt, Triawd Swynol, a Sara a Malen yn ogystal ag ocsiwn addewidion gan lawer o noddwyr caredig.
Mae teulu Ifan a Heulwen yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cymorth.
Dyma’r trefnwyr yn y llun gyda Heulwen ac Ifan Williams, William Evans, Heulwen Williams, Bethan Lewis, Mair Jones, Mererid Johnson, Sioned Jones-Roberts, Ifan Williams, Julia Taylor.
Cambrian News Machynlleth yr wythnos hon ar gael yn y siopau nawr







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.