Cynhaliwyd cwrs undydd ar gyfer dysgwyr y Gymraeg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli yn ddiweddar. Trefnir y cwrs yn flynyddol gan Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin.

Daeth dros 70 o ddysgwyr i fwynhau gwersi ond elfen bwysig iawn o’r diwrnod oedd y cyfle i’r dysgwyr i sgwrsio ac ymarfer eu Cymraeg gydag aelodau Merched y Wawr Dwyfor.

Darparodd aelodau Merched y Wawr baneidiau a chacennau ar gyfer y dysgwyr.

Dywedodd Helen Oswy Roberts, trefnydd yr ysgol undydd: “Rhaid diolch i aelodau Merched y Wawr am eu cefnogaeth yn flynyddol i’r cwrs. Mae eu cyfraniad i’r diwrnod yn un gwerthfawr iawn.”

Yn y llun mae’r dysgwr Caroline Smithers; Helen Roberts, Cymraeg i Oedolion; dysgwr Margaret Taylor-Hill; a Carol Davies, Merched y Wawr cangen Porthmadog.