Mae Urdd Gobaith Cymru yn falch o gadarnhau mai Nia Bennett yw Cadeirydd newydd Bwrdd Ymddiriedolwyr a Rheoli’r Urdd, a bod dau aelod newydd wedi’u penodi yn Ymddiriedolwyr Ifanc yr Urdd, sef Deio Siôn Llewelyn Owen ac Emily Pemberton.

Meddai Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd: “Rydym yn falch iawn o groesawu Nia Bennett i gadeirio Bwrdd yr Urdd ac i adeiladu ar y cyfraniad enfawr a wnaed gan Dyfrig Davies, sydd wedi cefnogi’r Urdd drwy newidiadau Llywodraethiant sylweddol. Hoffwn hefyd estyn croeso cynnes i Emily a Deio i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Mudiad.

“Wrth i’r Urdd ddatblygu a ffynnu, mae’r penodiadau newydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau â’n taith o fod yn sefydliad blaengar.

“Mae amrywiaeth o safbwyntiau, ystwythder yn ein penderfyniadau ac ystod eang o sgiliau perthnasol yn hanfodol i gyflawni ein strategaeth ‘Urdd i Bawb’.

“Yn dilyn 18 mis o drafod, ymgynghori a diwygio mae strwythur Llywodraethiant newydd yr Urdd eisoes yn ei le. Drwy agor y rhwyd yn ehangach rydym wedi croesawu dros 70 aelod newydd i’n Byrddau Strategol, er mwyn sicrhau fod gennym yr arbenigedd angenrheidiol i gefnogi gwaith y Mudiad wrth symud ymlaen.

“Mae parchu lleisiau ein hieuenctid wrth wraidd ein strwythurau newydd, felly yn ogystal â phenodi dau Ymddiriedolwr Ifanc newydd, mae 38% o aelodau ein Byrddau bellach rhwng 18 a 25 oed ac yn ganolog i drafodaethau a chyfeiriad yr Urdd i’r dyfodol.”

Croesawu Cadeirydd newydd yr Urdd

Mae Nia Bennett yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd yr Urdd gan Dyfrig Davies, sy’n camu yn ôl wedi chwe blynedd wrth y llyw.

Ar achlysur ei phenodiad meddai Nia Bennett: “Rwy’n awyddus i sicrhau bod yr Urdd yn gwbl gynhwysol, yn ymestyn ei gyrhaeddiad ac yn parhau i ddatblygu a gweithredu ar syniadau ein pobl ifanc. Drwy gynnig cyfleoedd i bawb - beth bynnag eu cefndir - i ehangu eu sgiliau a’u profiadau, rydym yn cyfrannu at ddatblygiad Cymry’r dyfodol, a thrwy hynny dyfodol Cymru.”

Ganed Nia yn Bolton a’i magu yn Llanfairpwll, Ynys Môn. Wedi cyfnodau o fyw yn Aberystwyth, Y Felinheli a Brwsel, ymgartrefodd Nia yng Nghaerdydd lle magodd dri o blant a gweithio yn y maes Cynhwysiant ac Adnoddau Dynol cyn cael ei phenodi yn Gyfarwyddwr Corfforaethol. Erbyn hyn mae Nia yn Gyfarwyddwr cwmni effectusHR, ac yn ymgymryd â gwaith prosiectau Adnoddau Dynol ac Anogi Uwch Reolwyr.

Nid yw Nia yn un i laesu dwylo. Bu iddi ymgymryd â sawl rôl wirfoddol gyda Chylch Meithrin Nant Lleucu yn y Rhath a bu’n Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Berllan Deg. Bu’n aelod o Banel Adnoddau Dynol yr Urdd ers 2011 ac yn Gadeirydd y Panel ers 2018. Bu i Ymddiriedolwyr yr Urdd ei chyfethol fel aelod o Bwyllgor Gwaith Gweithredol yr Urdd yn 2020, a chafodd ei hethol fel Ymddiriedolwr yn 2021. 

Penodi dau berson ifanc i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd

Derbyniodd yr Urdd 22 o geisiadau gan bobl ifanc 18-25 oed ledled Cymru oedd yn awyddus i eistedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr y Mudiad. Yn dilyn proses ffurfiol o gyfweliadau, mae Emily Pemberton a Deio Siôn Llewelyn Owen wedi’u penodi yn Ymddiriedolwyr Ifanc yr Urdd.

Daw Emily Pemberton o Grangetown, Caerdydd ac mae’n gweithio fel Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Gwrth-hiliaeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn aelod o’r Urdd ers dyddiau ysgol, cyfrannodd at Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2023 a thrwy hynny bu’n ymweld â Alabama union 60 mlynedd ar ôl ffrwydrad Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street, Birmingham er mwyn adeiladu ar y berthynas rhwng y ddinas a Chymru.

Meddai Emily: “Diolch i’r Urdd, gawsom ni brofiadau unigryw iawn yn Alabama wrth i ni ddysgu a dod yn ymgyrchwyr dros wrth-hiliaeth ar y lefel rhyngwladol. Dydw i methu meddwl am unrhyw brofiad arall gall fod mor werthfawr i unigolyn o fy nghefndir fel menyw Du Cymraeg.

“Dw i wedi fy ysbrydoli gan yr hyn sydd gan yr Urdd ar waith, a hoffwn barhau i godi statws yr agenda cydraddoldeb er mwyn gweithio tuag at Gymru lle mae’n pobl ifanc yn ddinasyddion byd-eang, yn profi cenedl well, ac yn ffynnu.”

Yn wreiddiol o gyrion Pwllheli, Penrhyn Llŷn, mae Deio bellach yn byw yn y brifddinas ac ef yw Is-Lywydd Iaith Diwylliant a Chymuned Cymru cyntaf Undeb Myfyrwyr Caerdydd, ble mae hefyd yn ymddiriedolwr o’r Undeb a Phrifysgol Caerdydd. Mae ei brofiadau o fod yn aelod o’r Urdd yn amrywio o glybiau ar ôl ysgol, cystadlaethau chwaraeon, cystadlu yn yr eisteddfod fel disgybl ysgol cynradd a myfyriwr Prifysgol.

Meddai Deio: “Mae cael bod yn aelod o’r Urdd dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy i fi, ac wrth gamu fewn i’w ail ganrif o fodolaeth, rwyf am weld y Mudiad yn parhau i ffynnu ac ehangu gorwelion cynifer o blant a phobl ifanc â phosib.”