Gwasanaethau
CARMEL (Bedyddwyr): Bore Nadolig: Gwasanaeth am 9.30yb Dydd Sul, 27 Rhagfyr: 2yp, Cwrdd Gweddi.Rhydfendigaid (Presbyteriaid): Dydd Sul, 27 Rhagfyr: 10yb, Gwasanaeth Plygain yng ngofal y dynion.
Rhydfendigaid
AR FORE Sul, 20 Rhagfyr, cynhaliodd Ysgol Sul Rhydfendigaid eu Sioe Nadolig flynyddol yn y capel. Roedd yn wledd i’r llygad i weld y goeden Nadolig hardd wedi ei goleuo, y seren yn y ffenest yn gwahodd pawb i fewn, a’r celyn a’r canhwyllau yn ychwanegu at y naws.Roedd tyrfa deilwng wedi dod i gefnogi’r plant, ac roedd yn galonogol iawn i weld cymaint a 30 o blant yn bresennol. Cymerwyd rhan gan Dion Wyn (tad a storïwr), Cari Davies (mam, gwraig y llety a chorws), Dwynwen Jones, Megan Herberts a Rhiannon Jones (plant a chorws), Gwenno Humphreys a Gethin Evans (Mair a Joseff), Mari Herberts (Gabriel), Gwawr Jenkins, Buddug Jones, Anest Jones, Lleucu Jones, Jess Owen a Mati Briall (angylion), Caru Ann, Guto Davies, Iestyn Jenkins, Ianto Rhyd Wilcocks a Steffan Wilcocks (bugeiliaid), Delun Davies, Saran Aur a Cain Owen (bugeiliaid), ac Emrys Jones (Herod). Yn anffodus, method un o’r angylion, sef Gwenno Evans a bod yn bresennol oherwydd salwch, er ei wedi bod yn ffyddlon iawn i’r ymarferiadau. Rhoddodd y plant gant y cant i’w perfformiadau, gyda’r holl ganu persain yn goron ar y cyfan.Cafwyd anerchiad pwrpasol gan y Parch Lewis Wyn Daniel, a rhannodd Gristingl yr un i bob plentyn a oedd yn bresennol ynghyd â rhoddion ariannol i blant yr Ysgol Sul am eu ffyddlondeb yn ystod y flwyddyn. Diolchodd hefyd i athrawon yr Ysgol Sul am eu hymroddiad. Gwnaed casgliad tuag at Apêl Llywydd y Gymdeithasfa, sef Ysbyty Shillong, gan Gwenno a Gethin yn ystod y gwasanaeth.Bydd y plant a’r athrawon yn cael hoe fach nawr dros y gwyliau, a bydd yr Ysgol Sul yn ail-agor ar 17 Ionawr, ond cyn hynny, edrychir ym-laen yn fawr at fynd i Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth i fwynhau’r panto blynyddol ar ddydd Sul, 10 Ionawr.Mae yna groeso mawr i unrhyw blentyn a fyddai’n dymuno ymuno â’r Ysgol Sul fywiog iawn am 11yb ar fore Sul yn Rhydfendigaid.
Merched y Wawr
MWYNHAWYD noson Nadoligaidd hyfryd gan Ferched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch ar nos Fawrth, 8 Rhagfyr. Derbyniwyd gwahoddiad gan gangen Mynach i ymuno â nhw a changen Llanafan yn Eglwys Ysb yty Cynfyn, sydd eleni yn cynnal arddan-gosfa Gwyl y Crud. Roedd yn wledd i’r llygad i weld yr eglwys yn edrych mor hardd, gyda’r sefydliadau lleol i gyd wedi creu eu harddongosfeydd eu hunain. Y wraig wadd am y noson oedd Beti Griffiths, Llanilar, a chafodd neb eu siomi, oherwydd roedd Beti yn ei hwyliau arferol, a’r storïau’n byrlymu allan! Cafwyd ganddi hefyd ddatganiad teimladwy iawn o gerdd Cynan ‘Baled y Pedwar Brenin’. I ddiweddu’r noson, roedd gwledd Nadoligaidd wedi ei pharatoi gan ferched Mynach, a chafwyd cyfle i gyd-ganu carolau. Diolchwyd i gangen Mynach am y gwahod-diad i noson gofiadwy ar ran cangen Ffair Rhos, gan Neli Jones, y llywydd.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.