Cymdeithas Lenyddol Undebol

AR 23 Tachwedd croesawyd Angharad Tomos i’n plith gan Hefina Jones. Magwyd hi yn un o bump o blant a chafodd ei addysg yn Nyffryn Nantlle a choleg Aberystwyth, ac MA ym Mangor. Bu’n amlwg iawn gyda Chymdeithas yr Iaith gan ddod yn gadeirydd 82-84. Enlliodd Goron a’r Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd, ond beth sydd wedi ei gwneud yn enwog yw ei llenyddiaeth plant a chymeriadau fel Rala Rwdins, Rwdlan, a’r Dewin Dwl. Mae ganddi golofnau ym mhapurau lleol ein bro.Ei thestun oedd Hel Achau. Soniodd am ei thaid a oedd yn yn Wrthwynebwr Cydwybodol yn gorfod mynd i Wrecsam i fod yn was ffarm yn ystod y Rhyfel Mawr . Ysgrifennodd lyfr Llafur a Senedd i Gymru. Cofia Angharad amdano yng nghanol ei stydi llawn llyfrau ac yn bwyta ym mysg ei lyfrau yn hytrach nac yn y gegin canolbwyntiodd wedyn ar ochr ei mam. Chydig iawn o drefn ymysg ei phapurau ond srtraeon difyr fel hanes Hannah Rees yn achub capel bychan Wesleaid yn Aberdaron rhag ei gau. Gorffenodd ei sgwrs drwy sôn fod ei hynafiaid yn gyfrifol am sefydlu yr Achos Wesleaid ym Mhorthmadog. Pwysleisiodd drwy ei sgwrs mor bwysig yw i ni roi enwau a dyddiadau ar luniau ac am sgwennu ein hanesion. Gwnaethpwyd y diolchiadau gan y Parch Christopher Prew gan ei chanmol am wneud y testun mor ddiddorol a pherthnasol i ni.Merched y WawrER MOR ofnadwy o wyntog oedd y tywydd daeth lawer o aelodau i Ganolfan Porthmadog ar 17 Tachwedd i fwynhau noson yng nghwmni Geraint Thomas, ffotograffydd proffesiynol o oriel a studio ‘Panorama’, Caernarfon. Cawsom ychydig o’i hanes a gwybodaeth am ei waith aml gyfryngol.Testyn y noson oedd llynnoedd Eryri a chawsom wledd i’r llygaid wrth edrych ar tirluniau godidog a dynnwyd ganddo o’r holl lynnoedd ym Mharc Genedlaethol Eryri. Cawsom hefyd ein ddifyri wrth wrando ar hanesion a storiau werinol am sut cafodd y llynnoedd eu henwau. Mae llawer o’r luniau i’w gweld yn ei lyfrau sef Eryri, Cyfrinachau ei llynnoedd a 100 Golygfa gorau Cymru (cywaith gyda Athro Gwyn Thomas).Yn ein cyfarfod ar 15 Rhagfyr byddwn yn dathlu’r Nadolig yn Yr Afr, Glandwyfach.The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints.THIS coming Sunday in Y Ganolfan, High Street: 10am, main service (with bilingual communion); 11.20am, scripture study (Sunday School for all ages).Everybody welcome.