Ala Road

MORNING worship at the English Presbyterian church, Ala Road this coming Sunday, 8 November, will be led by Rev Gareth Edwards. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.

Cylch Cyfeillon

MWYNHAODD aelodau’r Cylch ginio canol dydd yng Nghaffi’r Tyddyn, Tyddyn Sachau, Y Ffôr ddydd Llun, 19 Hydref. Croesawyd hwy’n gynnes gan y staff ac yn dilyn y gwledda cafwyd amser difyr iawn yn mynd o amgylch y blanhigfa a oedd, ar y pryd, yn llawn o blanhigion a blodau wedi eu gosod fel carped amryliw, hudolus. Trefnwyd y cludiant gan Gwyndaf Davies, Bryn Crin. Y Llun canlynol, 26 Hydref, tref-nwyd pnawn difyr iawn gan Griff Owen, Tan y Bryn. Rhannwyd yr aelodau i ddau dîm a chafwyd cryn hwyl yn datrys dau gwis gwahanol iawn i’w gilydd.Roedd y cwis cyntaf yn ymdrin â geiriau ac yna cafwyd cwis hwyliog dwyieithog. Trafodwyd y cynnwys yn y ddau gwis yn drylwyr ac ar y diwedd dyfarnwyd bod y timau yn gyfartal. Diolchwyd i Griff gan Garry Jones, Mynytho ac ef hefyd gafodd wobr yr wythnos.Derbyniwyd, gyda diolch o waelod calon, swm anrhydeddus er cof am Arthur a Julie Hughes, gynt o Hafod y Grug, Morfa Nefyn, gan y teulu. Bu’r ddau yn aelodau gwerthfawr a ffyddlon iawn o’r Cylch am flynyddoedd Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Llun, 9 Tachwedd.

Services/Oedfaon

ST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, evening prayer; Saturday, 6.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sunday 11am, Mass.St Peter’s: Sunday, 11am, Morning Prayer, Boreol Weddi; Wednesday 10.30am Eucharist.Capel Seion: 10yb, Parch Gwyn C Thomas, Pwllheli.Capel Penlan: 10yb Parch Fred Hughes, Nefyn.