Oedfaon/services

St Joseph’s: Friday, 3.30pm, evening prayer; Saturday, 3.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass.

St Peter’s: Sunday, 11am, Eucharist/Offeren; Wednesday, 10.30am Eucharist.

Capel Seion: 10yb, Parch Ioan Wyn Gruffydd.

Capel Penlan: 5yh, Parch Reuben Roberts, Bontnewydd.

Ala Road

Morning worship at the English Presbyterian church on Sunday, 15 November will be led by Rev W Bryn Williams.

The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.

Clwb y Bont

Mewn cyfarfod o’r clwb ar nos Lun, 2 Tachwedd, cyflwynodd y cadeirydd, Gwyndaf Hughes cyd frodor iddo o Drefor, sef Dafydd Roberts, yn wr gwadd.

Mae Dafydd wedi cael gyrfa lwyddiannus ym myd yswiriant ac yn gweithio ar hyn o bryd i gwmni R D Williams.

Goddrych sgwrs Dafydd oedd y Parch John Henry Hughes (Ieuan o Lyn) a anwyd yn Ty’n Pwll, Garn Fadryn yn 1814.

Addysgwyd ef yn Ysgol Botwnnog ac Ysgol Sul Capel Rehoboth, lle mae plac wedi ei osod i’w goffáu.

Aeth wedyn yn athro cynorthwyol i ysgol elusenol Dr David Williams ym Mangor ac yn 1839 dilynodd gwrs diwynyddol yng Ngholeg Aberhonddu cyn mynd yn weinidog i Langollen.

Yn 1847 aeth yn genhadwr i Demerara, Guyana Brydeinig am saith mlynedd a thra yno lluniodd gerdd yn hiraethu am Y Garn a Phen Llyn.

Ymddeolodd i Wrecsam yn 1873 wedi cyfnod yn weinidog gyda’r Annibynwyr Saesneg yn Lloegr.

Yn ogystal a bod yn weinidog a chenhadwr, roedd hefyd yn fardd ac emynydd ac mae un o’i emynau enwocaf ‘Wele wrth y drws yn curo’ yn cael ei chanu hyd heddiw.

Diolchwyd yn gynnes i Dafydd am sgwrs ddifyr a ffraeth gan Richard Williams.

Cymdeithas Ddiwylliannol

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor o Gymdeithas Ddiwylliannol Y Drindod nos Wener ddiwethaf, 6 Tachwedd.

Ar ôl croesawu pawb cyflwynodd yr is-lywydd, Lydia Jones, ddwy aelod dawnus o’r capel, sef Catrin Morris Jones a’i merch Carys i ddiddori’r aelodau.

Bu Catrin yn byw a gweithio yn Llundain am nifer o flynyddoedd ac yn chwarae’r delyn mewn llawer cerddorfa enwog. Er ei bod bellach wedi ymgrtrefu ym Mhwllheli mae galw mawr am ei gwasanaeth o hyd ac mae’n teithio’n aml gyda’r delyn i Lundain a rhannau eraill o’r wlad.

Cafwyd datganiadau hyfryd ganddi o waith nifer o wahanol gyfansoddwyr a rhoddodd adroddiad manwl o’i gyrfa. Cyflwynodd ei merch, Carys fel un arbennig o dda ar y delyn a’r piano.

Enillodd Carys y wobr gyntaf ar y delyn yn Eisteddfod yr Urdd Yng Nghydweli eleni.

Mawr fwynhawyd eu cwmni a diolchwyd i’r ddwy ar ran pawb gan Griff T Owen am diolchodd hefyd i chwiorydd y pwyllgor am baratoi’r lluniaeth ar ddiwedd noson safonol i’w chofio.

Bydd y cyfarfod nesaf yfory, nos Wener, 13 Tachwedd, am 7yh pryd y disgwylir cwmni Elis Dafydd o Drefor.

Merched y Wawr

Llywydd cyfarfod mis Tachwedd o gangen y dref oedd Marilyn Lewis, a’r cyfeilydd oedd Mari Evans.

Pasiwyd cydymdeimlad â theulu’r diweddar Anne Jones, fu’n aelod ffyddlon iawn o’r gangen ac yn weithgar iawn fel ysgrifenyddes Adran y Dref o’r Urdd am flynyddoedd lawer.

Bydd tri thîm yn cymryd rhan yn y Cwis Cenedlaethol nos Wener, 13 Tachwedd.

Cafwyd adroddiad o’r Pwyllgor Celf a Chrefft gan Mair Williams, a chytunodd Mari i gymryd rhan yng Ngwasanaeth Carolau’r Rhanbarth a gynhelir yn Eglwys Llaniestyn ar 6 Rhagfyr.

Croesawyd Rhiannon Parry,y wraig wadd, a dilynodd ei hoffter hi o waith pwytho yn ôl i ddylanwad ffrind i’w mam, sef Edrica Hughes ddaeth yn ifaciwi i Dalwrn, Ynys Môn ar ddechrau’r ail ryfel byd.

Daeth Edrica yn enwog am ei darluniau clytwaith a ddangoswyd mewn arddangosfeydd ar hyd y byd, hefyd mewn Cylchgronau Tecstiliau.

Diolchodd Mari Evans i Rhiannon Parry am sgwrs ddiddorol ac i Pat Parry, Gwyneth Roberts a Iona Wyn Roberts am baratoi paned.

Bydd Cinio Nadolig i’r aelodau ym Mhlas Heli, nos Iau, 3 Rhagfyr am 7yh, a’r adloniant yng ngofal Mair Williams a Mair Lloyd Davies.

Cylch Cyfeillion

Gyrfa Chwilod gafwyd yng nghyfarfod wythnosol y Cylch bnawn Llun, 2 Tachwedd.

Cafwyd hwyl fawr yn chwarae â phawb yn barod i gymryd ei lwc.

Syndod oedd gweld rhai chwilod yn harddach na’i gilydd gyda rhai ohonynt, wrth gwrs, yn fyr o aelod o’r chwilen ei hun.

Ar ddiwedd y gyrfaoedd, Garry Jones, Mynytho a Betty Jones, Lôn Ceredigion a orfu ac aeth y bwbi i Moira Mahoney, Llanbedrog a Jean Roberts, Y Ffôr.

Penderfynwyd ar leoliad a dyddiad y Cinio Nadolig ac anfonwyd cofion cynnes iawn at Gwen Helen Jones, Llwynhudol sydd wedi cael damwain atgas.

Bydd y cyarfod nesaf bnawn Llun, 16 Tachwedd.