Ala Road

MORNING worship at the English Presbyterian Church this Sunday, 29 November, will be led by Rev Ben Thomas. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.

Cymdeithas Hanes

CAFWYD noson o fwynhad a diddorol iawn mewn cyfarfod o gangen leol Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd nos Wener, 20 Tachwedd, yng nghwmni Angharad Thomas, Dyffryn Nantlle. Gyda chymorth siart o’i choeden deulu a hen luniau, adroddodd hanes un cainc o’i theulu oedd â’u gwreiddiau ar Ynys Enlli.Ffermio oedd y teulu ar yr ynys ac roedd wedi darganfod llawer iawn o’u hanes. Mewn amser, daeth un o ferched y teulu drosodd i’r tir mawr ac yn wir cyn belled â Phwllheli, lle sefydlodd siop nwyddau haearn yn rhif 79 Stryd Fawr y dref, gyda busnes lwyddianus dros ben. Diddorol oedd edrych trwy’r hen luniau o’r teulu a sylweddoli mor galed oedd bywyd ar Enlli. Claddwyd llawer ohonynt yno a dro’n ôl bu Angharad drosodd yno yn chwilio am eu beddau, hefyd yn chwilio am leoliad y siop ym Mhwllheli.Croesawyd Angharad a’r aelodau gan y cadeirydd, Elena Hughes. Tra’r oedd pawb yn sgwrsio a chwilota drwy’r lluniau ar y diwedd, paratowyd paned gan Mair Lloyd Davies a Lena Pritchard. Talwyd y diolchiadau am noson arbennig o dda gan y cadeirydd. Ar ran y gangen dymuna’r cadeirydd ddiolch i swyddogion y Drindod am gael cynnal y cyfarfodydd yn y festri, gyda diolch arbennig i Evan Jones, Penrallt a Griff Owen, Tan y Bryn am eu cymorth parod a charedig.Nid oes cyfarfod ym mis Rhagfyr, felly bydd y cyfarfod nesaf nos Wener, 22 Ionawr. Dalier sylw fod y cyfarfod hwn wythnos yn hwyrach na’r dyddiad sy’n ymddangos ar y rhaglen.Y siaradwraig wadd fydd Yvonne Lloyd Jones yn sôn am Teulu Ty Rhos.

Oedfaon/Services

ST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, Evening Prayer; Saturday, 6.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass.St Peter’s: Sunday, 11am, Eucharist/Offeren; Wednesday, 10.30am, EucharistCapel Seion: 10yb, y Parch Glenys Jones.Capel Penlan: y Parch Carys Ann, Glynarthen.Cylch CyfeillionYN EU cyfarfod dydd Llun, 9 Tachwedd, mwynhaodd aelodau’r cylch brynhawn o sgwrsio gyda’i gilydd am wahanol bynciau’r dydd.Y testun mwyaf oedd y newid mawr ymhob agwedd ar fywyd yn gyffredinol, gan gymharu bywyd o’r plant ieuengaf i’r rhai hynny sydd wedi gweld y gwahanol bethau sy’n dylanwadu ar fywyd heddiw. Difyr oedd clywed am deimladau’r aelodau.Newidwyd y gweithgaredd at ddiwedd y pnawn gyda phawb yn troi eu meddyliau a chanolbwyntio ar chwarae gêm o bingo.Yr enillwyr oedd Griff Owen, Tanybryn, Lleiniau a Julie Forde, Madryn, Edern.Fel arfer, mwynhawyd paned a chacen cyn troi am adref.Y Llun canlynol, 16 Tachwedd, roedd y prynhawn yng ngofal Jean Roberts, Y Ffôr a Griff Owen.Dau gwahanol gwis oedd ganddynt a rhanwyd yr aelodau yn ddau dîm.Rhaid dweud fod pawb wedi helpu ei gilydd gyda’r posau. Wedyn chwaraewyd gêm o bingo a Julie Forde a Griff Owen a orfu unwaith eto. Enillwyd y wobr arbennig gan Jean Roberts.Anfonwyd cofion at Dilys Jones, Stryd Kingshead, yna paned a chacen a sgwrsio cyn diweddu.Bydd y cyfarfod nesaf brynhawn Llun, 30 Tachwedd.