Oedfaon/Services
ST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, evening prayer; Saturday, 6.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sun-day, 11am, Mass.St Peter’s: Sunday, 11am, Eucharist / Offeren; Wednesday, 10.30am, Eucharist.Capel Seion: 10yb, Parch Reuben Roberts, Bontnewydd.Capel Penlan: 10yb, Parch Cledwyn Griffith, Mynytho.
Capel y Drindod
DDYDD Gwener, 15 Ebrill: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.Ddydd Sul, 17 Ebrill: 10yb a 5yh, oedfaon yng ngofal y gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh, Oedfa o Fawl.Ddydd Llun, 18 Ebrill: 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, astudiaeth Feiblaidd.Ddydd Mercher, 20 Ebrill: 7yh, Clwb Ieuenctid.
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian church this coming Sunday will be led by the minister, Rev W Bryn Williams. The service starts at 11.15am.
Clwb y Bont
FEL sy’n arferol un o aelodau’r clwb yw’r siaradwr yng nghyfarfod olaf y tymor ac yn ddiddorol iawn , y tro hwn, cafwyd hanes ei daith i’r Ynys Las (Greenland) gan Michael Sol Owen.Eglurodd ei fod mewn grwp o chwe aelod ac arweinydd yn cerdded dros gyfnod o 12 diwrnod am 150k ac yn dringo cyfanswm o 4700medr. Gyda chymorth lluniau trawiadol, gwelwyd tirwedd llwm a mynyddig yr Ynys, y rhewlifau niferus a’r ffiordau gyda rhewfryniau glas yn nofio ynddynt. Teithiai’r grwp i fyny’r ffiordau gyda chwch ac yna yn cerdded am rai dyddiau, cyn cyfarfod y cwch drachefn. Roedd y tywydd yn braf ac yn glir fel grisial, heb lawer o nos o gwbl, meddai.Llwyddodd Michael i gyfleu naws ac antur y daith yn ddiddorol iawn a diolchwyd iddo gan Henry Rees.Ar ddiwedd y noson etholwyd swyddogion ar gyfer y flwyddyn nesaf.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.