Ar nos Sadwrn, 3 Chwefror am 8yh cynhelir noson eitha’ arbennig yng Ngwesty Llety Parc yn Aberystwyth, er mwyn codi arian tuag at elusennau lleol, gyda’r artistiaid isod yn cymryd rhan.
Y tocynnau yn £10 yr un ac ar gael o’r gwesty drwy ffonio 01970 636333. Os ydych yn hoffi o noson lawen, dyma’r lle i fod ar y noson neilltuol hon
Canwr gwerin/baledwr yn wreiddiol o Ynys Môn, yw Wil Tân. Ei enw gwreiddiol yw Wiliam Emrys Roberts, ond wedi iddo ymuno gyda’r frigâd dân, ym Mhorthaethwy, cafwyd y llysenw Wil Tân.
Mae gan ei gerddoriaeth gysylltiadau Celtaidd cryf i Wil gael ei ddylanwadu gan faledi traddodiadol Gwyddelig.
Dechreuodd ganu’n gyhoeddus am y tro cyntaf wrth ymweld gyda’i ffrindiau o Conemara a Galway ac mae’r gweddill yn hanes, fel petai!
Yn ymuno gyda fe ar y noson bydd ei fab Meilir a’i ferch Efa - y ddau yma hefyd yn gwneud enwau eu hunain yn y byd cerddorol erbyn hyn.
Criw o feibion ac un fenyw o ardal Llanuwchllyn ydi’r 3 Gog a Hwntw sydd heb ddim byd gwell i wneud ar benwythnosau na diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad!
Mae’r criw wedi bod yn trio diddanu cymdeithasau ers tro, gan gynyddu mewn niferoedd dros ugain mlynedd a mwy. Rhaglen o ganeuon poblogaidd Cymraeg sydd ganddynt, gan annog cynulleidfaoedd i ymuno yn y canu ar bob cyfle!
Mae’r criw yn edrych ymlaen yn arw am gael dod draw i Aberystwyth ddechrau Chwefror, gan mae dyma’r tro cyntaf iddynt ganu yn yr ardal.
Arweinydd y noson fydd y darlledwr o Gymro sef Geraint Lloyd a fu’n gyflwynydd ar Radio Ceredigion ac yna BBC Radio Cymru rhwng 1997 a 2022.
Ganwyd Geraint yn Lledrod, ger Aberystwyth a mynychodd Ysgol Gynradd Lledrod ac yna Ysgol Uwchradd Tregaron.
Yn ddyn ifanc roedd yn ymwneud a’r byd ralïo ac aeth ymlaen i rasio 4x4s gan gynrychioli Cymru yn y gamp. Roedd hefyd yn gyfrifol am ddechrau clwb ralïo yn Aberystwyth yn yr 80au.
Cyhoeddodd ei hunangofiant Geraint Lloyd - Y Dyn Tu Ôl i’r Llais yn 2013. Cafodd ei urddo i’r orsedd llynedd yn Eisteddfod Bodeuan am ei waith arbennig yn ei filltir sgwâr. Erbyn myn ma’ fe yn gyflwynydd gwirfoddol ar Radio Môn FM ac wedi agor Modurdy, lle bydd yn gweithio ar geir pobl yr ardal.





