MAE cwmni recordiau Sain wedi cydweithio gyda Dafydd Llanfihangel ar ei CD unigol cyntaf a hynny er budd yr elusen Alzheimer’s Society Cymru.
Mae Dafydd wedi bod yn canu ers blynyddoedd; ymunodd â Hogia’r Mynydd, côr meibion â’i wreiddiau ym Mynytho, dros 20 mlynedd yn ôl ac mae’n un o saith aelod y grwp Pwy Sa’n Meddwl ond dyma’r tro cyntaf iddo recordio fel unawdydd.
Yn cyfeilio ar y record mae’r gyfeilyddes Gwenda Williams.
“Recordiais y CD er cof am fy mam,” meddai Dafydd. “Fuodd hi farw y llynedd ac roedd wedi bod yn dioddef o dementia.
“Un o’i hoff bethau oedd fy nghlywed yn canu a dyna’r ysgogiad i greu’r CD hwn lle bydd unrhyw arian a godir o’r gwerthiant yn mynd at Alzheimer’s Society Cymru.”







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.