Sefydliad y Merched
CROESAWYD yr aelodau i gyfarfod blynyddol y gangen gan y llywydd, Rene Evans. Roedd yn falch hefyd o roi croeso i Elinor Rhys Williams, Penrhos, swyddog gwirfoddol y sir. Cyflwynwyd adroddiad o weithgareddau’r flwyddyn gan yr ysgrifennydd a’r fantolen ariannol gan y trysorydd. Yn ei hanerchiad diolchodd y llywydd i’r aelodau am eu cefnogaeth gydol y flwyddyn, gan bwysleisio iddynt gael blwyddyn ddiddorol a llwyddiannus dros ben.Dan ofal Mrs Rhys Williams cafwyd pleidlais i ddewis swyddogion ac ail-etholwyd fel a ganlyn: llywydd Rene Evans; is-lywydd, Jill Hall; trysorydd, Lowri Richards; ysgrifennydd, June Davies; is-ysgrifennydd, Mari Davies; ysgrifenyddion y wasg, Mair Jones a Carol Thomas (llanw).Llongyfarchwyd y gangen am flwyddyn ddid-dorol gan Mrs Rhys Williams. Hi hefyd oedd wedi trefnu cwis diddorol a chafwyd amser difyr iawn yn ei chwmni. Diweddwyd y noson gyda lluniaeth ysgafn dan ofal Betty Richards a Ceinwen Chidley. Enillwyd gwobr y raffl gan Carol Thomas.Bydd y cyfarfod nesaf ar 11 Ionawr.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.