Cyng Ivor Williams, llywydd cangen Llanbed a Llanybydder o Sefydliad Prydeinig y Galon a Gwynfor Lewis o W D Lewis a’i Fab, Llanbed, yn cyflwyno siec o £788 i swyddogion y gangen leol, sef Jennie Bracher, yr ysgrifenyddes; Dave Smith, cadeirydd; ac Anne Davies, trysorydd.

Dyma’r arian a godwyd gan Ivor a Gwynfor wrth gymryd rhan yn nhaith feicio Sefydliad y Galon yn Abertawe yn ddiweddar.

Dymuna’r ddau ddiolch i bawb am eu cefnogaeth.