Neuadd Goffa

NOS FAWRTH cyn y Nadolig am 7yh cynhaliwyd Noson o Garolau gydaHeledd Llwyd yn arwain y gân ac Enfys Llwyd yn cyfeilio. Cyflwynwyd casgliad y noson tuag at Uned Ddialysis yn Ysbyty Glangwili trwy lawr Parch Wyn Thomas. Roedd yn braf i weld cymaint wedi troi allan i gefnogi achos mor bwysig.

Capel y Fadfa

CYNHELIR yr oedfa ddydd Sul nesaf am 1.30yp, gyd gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn falch o estyn croeso i aelodau a ffrindiau’r achos i’r cwrdd cyntaf o’r flwyddyn newydd, a chyfle i rannu’r cymun.

Noson Galan

Y LLYTHYREN L yw thema gwisg ffansi Nos Galan yn Nhafarn Glanyrafon eleni. Bydd gwobrau yn cael eu cyflwyno am y wisg orau ar gyfer oedolion a’r plant a bwffe blasus yn cael ei weini fel yr arfer. Dewch yn llu am hwyl a sbri.