Y Sul
FESTRI Maesyneuadd, 5.30yh, Oedfa Wythnos Cymorth Cristnogol. Bydd y casglwyr yn dod o gwmpas y pentref dros yr wythnosau nesaf i gasglu at Cymorth Cristnogol yn yr amlenni coch. Byddant yn ddiolchgar am bob rhodd.
Clwb gwau
BYDD y Clwb Gwau yn cyfarfod yn Festri Maesyneuadd am 2yp ddydd Mawrth, 3 Mai (am fod y dydd Llun yn Wyl Banc). Croeso i bawb.Wyt ti’n cofio?BYDD cyfres o gyfarfodydd ar y thema ‘Wyt Ti’n Cofio?’ yn Festri Maesyneuadd ystod mis Mai gyda’r cyfarfod cyntaf ar nos Iau, 5 Fai. Gal-wch i mewn unrhyw bryd rhwng 6 a 9yh. Ceir cyfle i edrych ar hen luniau o Drefor a sgwrsio amdanynt yng nghwmni Karen Owen. Croeso cynnes i bawb o bob oed. Dowch â’ch straeon, eich lluniau a’ch atgofion! Mynediad am ddim.


.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.