British Legion Ladies Section

IN THE monthly meeting in September, chairman Ann Jones welcomed everyone after our summer break. The exhortation was read and a silent tribute observed.As the appointed speaker was unable to attend, two members, Delyth and Rhyswen Jones at short notice gave a cookery demonstration using the microwave. Members tasted delicious dishes, of a starter, a main course and a dessert before finishing with a cup of tea and biscuits provided by the hostesses Anne Lloyd and Elizabeth Cameron. The vote of thanks was given by Elisabeth Cameron.The raffle given by Mair Evans was won by Marged Phillips. A jar of lemon curd given by Delyth was won by Mair Evans.The AGM was held on 21 October and after the business part was over, voting took place for 14 committee members for the coming year. The speaker was Sheilagh Yeoman, who gave a talk and showed slides of her involvement with the Duke of Edinburgh awards, taking out parties of young people to Africa on projects to help and support families in poor areas, building homes, getting clean water and teaching in schools. The vote of thanks was given by Margaret Evans. The raffle given by Marged Phillips was won by Anne Lloyd. The hostesses were Ann Evans, Aerona Rees and Pat Jones.

Merched y Wawr

NOS Lun, 2 Tachwedd, croesawyd yr aelodau gan y llywydd, Ann Morgan. Yn anffodus y mis yma eto, cydymdeimlwyd yn annwyl iawn at deulu y diweddar Bet Davies oedd yn aelod ffyddlon yn y gangen. Anfonwyd cofion yn ogystal at y rhai oedd yn anhwylus ar hyn o bryd.Diolchwyd i’r aelodau a fu’n cynnal Cyfarfod Diolchgarwch yng Nghartref Bryntirion, gan ddweud fod y preswylwyr yn gwerthfawrogi’r ymweliad yma yn fawr iawn. Dymunodd Ann yn dda i’r aelodau oedd yn cystadlu yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol yn Nhyglyn Aeron.Aeth ymlaen wedyn i groesawu ein gwr gwadd sef John Jones o Ffair Rhos. Braf oedd cael ei gwmni yn ôl yn Nhregaron yn dilyn ei ymddeoliad fel prifathro yr Ysgol Gynradd. Roedd wedi paratoi cwis ar ein cyfer, a chafwyd tipyn o hwyl yn ateb y cwestiynau a datrys y cliwiau. Diolchwyd iddo am roi o’i amser i baratoi cwis difyr a diddorol gan Delyth Rees, roedd yn amlwg ei fod wedi gwneud llawer iawn o waith ymchwil i gynnal noson fel hon.Enillwyd y raffl gan Nerys Pugh, a mwynhawyd paned a bisgedi wedi ei baratoi gan Nerys Pugh ac aelodau Llanddewi Brefi a Heol Dewi a Doldre.Nos Fercher, 2 Rhagfyr cynhelir noson yng nghwmni ‘Pethau Olyv’.

Capel Bwlchgwynt

BWLCHGWYNT Christmas Fayre will be held at the Memorial Hall on Saturday, 28 November between 2 and 4pm. Oedfa fore Sul, 29 Tachwedd am 10yb dan ofal y Parch John Roberts.

Whist drive

ALL ARE welcome to a whist drive at the Kite Centre on Wednesday, 25 November, at 8pm. Proceeds in aid of St Caron’s Church.

Christmas Fair

THE CHRISTMAS Fair will be held in the Memorial Hall on Friday, 4 December from 2pm to 8pm. There will be a craft market, Santa’s grotto (4.15 to 6.45pm) and refreshments, the Côr Meibion Caron male voice choir are singing at 7.15pm, there will be a short fun Santa run at 7.30pm (Santa hats available in the fair), and the town lights will be turned on at 7.45pm in partnership with Tregaron Town Council.

Cymdeithas y Deillion

CYNHALIWYD noson goffi lwyddiannus wedi ei drefnu gan aelodau ardal Tregaron a Llanddewi Brefi yn y Neuadd Goffa, nos Wener, 4 Medi. Croesawyd llywydd y noson, David Bennett, postfeistr gan Diana Jones, cadeiryddes y gangen. Cyflwynodd anerchiad pwrpasol a chymelliad i bawb i gefnogi’r stondinau.Cyflwynwyd anrheg i’r llywydd gan Erin Jones, brenhines y carnifal. Cafwyd gair o werthfawrogiad gan Jane Rees, trysorydd Cymdeithas y Deillion a chadarnhad fod yr elw yn cael ei ddefnyddio i helpu bobl sydd yn colli eu golwg yn y sir. Talwyd pleidlais o ddiolchgarwch am ei cyfraniadau a chefnogaeth gan Mary Lewis, yn enwedig i’r llywydd am ei bresenoldeb a’i rodd anrhydeddus ac i Evan Jones, Derwen Tanrallt, arwerthwr y noson. Fel canlyniad anfonwyd y swm o £1,400 i gronfa Cymdeithas y Deillion.

English Methodist Church

THE SERVICE on Sunday, 29 November, will be held in Bryntirion Centre at 2pm, with Rev Roger Hides. All warmly welcome.