MAE Urdd Gobaith Cymru wedi llwyddo i dorri dwy record byd fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y Mudiad a ddechreuodd ddoe.

Dechreuodd y dathliadau gyda dros 95,000 o blant ac oedolion o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn dod ynghyd i ddathlu’r pen-blwydd arbennig drwy ymuno â pharti rhithiol ar Zoom.

Cynhaliwyd parti mwyaf yn hanes y Mudiad, a ddarlledwyd ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, yng nghwmni cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, Mistar Urdd a Mei Gwynedd ac ysgolion o bob cwr o Gymru.

Yna i goroni’r cyfan, llwyddodd cefnogwyr yr Urdd i dorri record byd drwy uwchlwytho 1,176 o fideos ohonynt yn canu’r un gân, sef ‘Hei Mistar Urdd’ i Twitter a thros 800 o fideos i Facebook.

Uchafbwynt arall y diwrnod oedd y cannoedd o gyfarchion pen-blwydd hapus a dderbyniodd yr Urdd gan ysgolion, enwogion, dylanwadwyr a gwleidyddion, gyda sawl un yn diolch i’r Mudiad am y cyfleoedd unigryw dros y blynyddoedd.

Derbyniwyd neges arbennig gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Mae’r Urdd wedi chwarae rhan anferth yn hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant. Canrif o gynnig cyfleoedd arbennig ac unigryw i blant a phobl ifanc Cymru yn y Gymraeg. Dwi’n dymuno’r gorau i’r Urdd ac yn gobeithio am ganrif arall o ddathlu’r coch, gwyn a gwyrdd.”

Daeth cyfarchiad yr holl ffordd o Efrog Newydd gan yr actor Matthew Rhys: “Dw i fel miloedd ohonom ni... yn hynod ddiolchgar am y cyfleoedd di-ri a ddaeth i ni oblegid yr Urdd... Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn i ddathlu’r holl ddathliadau arbennig a ddaw i’r mudiad yn y flwyddyn arbennig hon. Pen-blwydd hapus iawn i’r Urdd!”

Tu hwnt i’r dathliadau ar-lein, gwelwyd trefi a chymunedau yn ymuno yn y dathliadau wrth oleuo adeiladau eiconig yn goch, gwyn a gwyrdd, gan gynnwys Senedd Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru hefyd wedi agor arddangosfa newydd i nodi canmlwyddiant y mudiad.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Diolch o galon i bawb sydd wedi ymuno yn nathliadau canmlwyddiant yr Urdd heddiw, a’n helpu i gyrraedd y garreg filltir hon.

“Does dim dwywaith bod yr Urdd wedi datblygu’n helaeth yn ystod y ganrif a fu, a’r pandemig wedi gorfodi’r Urdd i arbrofi ac arloesi gyda dulliau rhithiol newydd. Mae’r prif nod yn parhau, sef darparu cyfleodd gwych ac unigryw i blant a phobl ifanc i fwynhau profiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod i’w gofio i’r Urdd, gyda’r gefnogaeth yn profi’r galw am ddyfodol disglair i’r Mudiad. Bydd dathliadau’r canmlwyddiant yn parhau trwy gydol y flwyddyn gyda phob math o ddatblygiadau a digwyddiadau cyffrous ac uchelgeisiol, gan gynnwys buddsoddiad o £10 miliwn yn ein gwersylloedd ac agor gwersyll amgylcheddol newydd yr Urdd yn Sir Benfro; cynhadledd chwaraeon cyntaf i ferched yng Nghymru; twrnamaint Rygbi 7 bob ochr gydag elfen ryngwladol, timoedd cymysg ac anabl; bydd G?yl Gemau Trefol Ieuenctid cyntaf Cymru ym Mae Caerdydd; a mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ynghyd â amryw o brosiectau rhyngwladol gyda’n partneriaid newydd yn Alabama, Iwerddon, Efrog Newydd, Norwy, Philadelphia a Kenya.”

Mae 100 mlynedd union ers i Syr Ifan ab Owen Edwards sefydlu’r Urdd, er mwyn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc Cymru i gymdeithasu a mwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ers ei sefydlu, mae dros 4 miliwn o blant a phobl ifanc wedi ymwneud â’r Mudiad, trwy gymdeithasu, cystadlu, mynychu clybiau chwaraeon, mwynhau yng nghanolfannau preswyl yr Urdd a chymryd rhan mewn gwaith dyngarol a rhyngwladol, y cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.