THE latest community news from Lampeter

Merched y Wawr

I ORFFEN blwyddyn lwyddiannus ar 14 Mehefin, aeth yr aelodau i ymweld â Casa Del Cymru yn Horeb, ger Llandysul. Gwneud pasta a ravioli fresh mae’r cwmni yma.

Cafwyd awr bleserus iawn yng nhwmni perchnogion y ffatri, sef Simon a Gina Pope, yn blasu y gwahanol gynnyrch a phawb yn canmol ac yn mwynhau.

Yna teithio i Dafarn Ffostrasol i gael pryd o fwyd.

Trefnwyd y daith gan Gwen gyda chymorth Gwyneth. Diolchwyd i’r ddwy gan Elin, y llywydd.

Cyfeiriodd Elin hefyd bod ei blwyddyn fel llywydd wedi bod yn bleserus iawn gan fod pawb o’r aelodau wedi bod mor barod i gyflawni pob dyletswydd a ofynwyd iddynt a dymunodd yn dda i’r pwyllgor newydd.

Yn yr Wyl Haf Aur ym Machynlleth enillodd Gillian Jones, y trysorydd, y brif wobr lenyddol drwy gyflwyno gwaith llenyddol mewn unrhyw ffurf ar y testun “Nid aur yw popeth melyn”.

Daeth i’r brig gan ennill Tlws Llenyddol Ann Lewis.

Daeth hefyd yn ail yn yr un gystadleuaeth ac yn ail yn y Stori Feicro hefyd.

Llongyfarchiadau enfawr i Gillian.

Roedd balchder mawr hefyd bod ein cangen wedi ennill yr ail wobr am y rhaglen orau allan o 270 o ganghennau drwy Gymru.

Hefyd yn yr Wyl Haf, Rajesh David o Llambed enillodd y wobr ar gyfer dysgwyr ar lefel uwch. Mae ef yn frwdfrydig iawn dros y Gymraeg.

Llongyfarchiadau mawr iddo yntau.

I ddathlu 50 mlynedd o Ferched y Wawr eleni crëwyd 12 o Baneli Celf hardd gan aelodau creadigol ledled Cymru.

Aerwen Griffiths, un o’n haelodau ni fu’n bennaf gyfrifol am Banel Ceredigion gyda help aelodau eraill o’r Sir.

Bydd y paneli yn cael eu harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol, y Sioe Frenhinol a’r Llyfrgell Genedlaethol yn ystod y flwyddyn.

Byddwn yn rhoi croeso i dimau y rownd gyn derfynol o Dalwrn y Beirdd Radio Cymru i Festri Shiloh ar 13 Gorffennaf.

Hefyd edrychwn ymlaen at gystadlu yn Eisteddfod Llanbed ym mis Awst.

St Peter’s Church

FRIDAY, 7 July: Monthly Lunch in aid of Christian Aid, 12pm till 1.30pm in the church hall.

Sunday, 9 July: 8am, Holy Communion in English; 10.30am Holy Communion Bilingual.

St Mary’s Church, Maestir

SUNDAY, 9 July: 2.30pm, Holy Communion in English.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]