THE latest community news from Llandysul

Aduniad disgyblion Ysgol Gynradd Aberbanc

ERS 2004 mae’r disgyblion a fynychodd Ysgol Gynradd Aberbanc cyn Medi 1970 wedi ymgynnull yn achlysurol i rannu atgofion a chadw cyfeillgarwch oes yn fyw.

Erbyn hyn mae’r ysgol wedi cau ond mae’r awydd i gwrdd yn dal yn fyw.

Ar ddydd Gwener, 11 Mai, eleni daeth 90 ynghyd yng Ngwesty’r Porth i fwynhau cinio blasus.

Yn anffodus rydym wedi colli nifer fawr o’n cwmniwyr selog yn ystod y ddwy flynedd ers i ni gyfarfod ddiwethaf.

Ein gwraig wadd eleni oedd Margarette Hughes, Hendygwyn ar Daf, neu Margarette Cwerchyr gynt.

Roedd yn braf cael cyfle i’w llongyfarch ar gael ei henwebu i’r orsedd eleni am ei gwaith diflino dros Gymreictod yn ei bro a Chymru gyfan.

Mae’n ymuno yn awr â nifer fach ddethol o gyn-ddisgyblion yr ysgol sy’ wedi derbyn yr anrhydedd hon.

Yn ystod y cinio hefyd cafwyd cyfle i gefnogi Ysbyty Plant Bryste trwy law Malcolm Davies, Cefn gynt)

Diolch i bawb a ddaeth i greu prynhawn byth gofiadwy. Edrychwn ymlaen at gwrdd eto tua 2020.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]