Wrth i Cân i Gymru 2023 agosáu, mae’n amser cyhoeddi'r caneuon sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth fwyaf ddisgwyliedig Cymru.
Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno’r gystadleuaeth fawreddog a fydd yn cael ei ddarlledu yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar nos Wener, y 3ydd o Fawrth.
Y panel o arbenigwyr sydd wedi dewis yr wyth cân sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yw’r gantores a’r cynhyrchydd Eädyth, y cerddor ac aelod o’r grŵp Pedair, Gwyneth Glyn, enillydd Cân i Gymru pedair gwaith a phrif leisydd ‘Y Moniars’, Arfon Wyn, a’r cyflwynydd radio a phrif leisydd Sŵnami, Ifan Davies.
Ac roedd disgwyliadau’r beirniaid yn uchel unwaith eto eleni.
Meddai Gwyneth Glyn: “Fysa fo’n braf iawn clywed cân sy’n gafael yno chdi o’r cychwyn cyntaf a sydd ddim yn gadael i chdi fynd tan mai wedi gorffen.
"A mae rhain yn bethau prin. Ond pan mae yna briodas gyfforddus, naturiol rhwng yr alaw a’r geiriau, mae cân yn gallu mynd â chdi i rywle. A fysa fo’n braf iawn clywed un o’r rheiny.”
“Dyna ydi’r peth da am Cân i Gymru – dwi ddim cweit yn siŵr be i ddisgwyl!” Meddai Ifan Davies, oedd yn beirniadu am y tro cyntaf eleni.
“Mae yna amrywiaeth pob blwyddyn ond dwi’n gobeithio eleni fydd yna gynrychiolaeth o beth sydd yn mynd ymlaen yn y sîn yng Nghymru ar hyn o bryd.”
Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu am y siawns i ennill £5,000 a theitl Cân i Gymru 2023, yw:
- Patagonia gan Alistair James. Dylan Morris yn perfformio.
- Y Wennol gan Siôn a Liam Rickard, geiriau gan Siôn Rickard. Lo-fi Jones (Liam a Siôn Rickard) yn perfformio.
- Melys gan Luke Clement, Daniel Davies, Dafydd Mills a Tomos Mills. The Night School (Luke Clement, Daniel Davies, Dafydd Mills a Tomos Mills) yn perfformio.
- Cân i Mam gan Huw Owen.
- Chdi Sy’n Mynd I Wneud Y Byd Yn Well gan Dafydd Dobson. Bryn Hughes Williams yn perfformio.
- Cysgu gan Alun Evans (Alun Tan Lan). Tair aelod o’r band Tant yn perfformio (Angharad Elfyn, Elliw Jones a Siwan Iorwerth).
- Eiliadau gan Ynyr Llwyd
- Tangnefedd gan Sera Zyborska & Eve Goodman.
Y gwylwyr sy'n gyfrifol am ddewis yr enillydd drwy fwrw eu pleidlais dros y ffôn.
Mae manylion pleidleisio a thaflen sgôr ar gael ar wefan S4C yma.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.