Gyda’r dinistr yn Wcráin wedi dod yn llun rhy gyfarwydd i ni bellach mae Cymdeithas y Cymod yn parhau i alw am gymod a chreu heddwch hir dymor yn Wcráin.
Ar ol blwyddyn gyfan o ryfela heb unrhyw newid na chadoediad dwedodd Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod: “Er pa mor anodd yw’r her o heddwch gyda Putin yn parhau i wrthod ystyried Wcráin fel gwladwriaeth mae’n hanfodol bod heddwch yn parhau yn cael ei ystyried fel posibilrwydd a nod yn Wcráin er budd phobl ddiniwed y wlad.”
Ychwanega: “Gyda miloedd o sifiliaid wedi marw a miloedd mwy wedi gorfod ffoi, mae’n rhaid bod y drafodaeth dros gadoediad yn parhau.
"Ac mae’n rhaid cofio, fel ymhob rhyfel mai trwy drafodaeth ddiplomyddol y daw diwedd i’r gwrthdaro gwaedlyd hwn.”
Ni fydd hanes yn edrych yn garedig ar y penderfyniad a wnaeth Putin wrth ymosod ar Wcráin na'i arlywyddiaeth yn gyffredinol a dwedir bod y gwrthdaro wedi anafu neu ladd 180,000 o filwyr Rwsiaidd a 100,000 o filwyr Wcráin a 40,000 o bobl ddiniwed.


.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.