Mae arlunydd a anwyd ac a fagwyd yn Nhregaron newydd gwpla darlun sydd yn gofnod ac yn ddathliad o lwyddiant ysgubol y digwyddiad mwyaf erioed i’w gynnal yn y dref farchnad hynafol yng nghanol Ceredigion

Dywedodd yr artist Wynne Melville Jones sy’n hanu o’r dre a bellach yn gweithio o’i gartref yn Llanfihangel Genau’r Glyn mai ei nod oedd talu teyrnged i’r Tregaroniaid ac i’r Cardis am fwrw ati gyda’r fath awch a brwdfrydedd, mewn cyfnod anodd a heriol, er mwyn sicrhau llwyddiant ysgubol Prifwyl 2022.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron yn ystod Awst 2022.

Meddai: “A minne yn fachgen lleol wnes i erioed freuddwydio y byddai’r Eisteddfod yn ymweld â’m tref genedigol ond roedd caeau gwyrddion Tregaron yn ddelfrydol o ran lleoliad a’r croeso a roddwyd gan y trigolion lleol i’r Eisteddfodwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt mor eithriadol o gynnes a hynny mewn ardal lle mae’r Gymraeg yn parhau i fod yn brif iaith y cymunedau bywiog lleol.

Cymuned weithgar

“Profwyd hefyd nad yw Tregaron yn bell o bob man a dangoswyd bod yn yna gymuned weithgar glos a Chymraeg yn dal yn gryf a bod Tregaron yn le arbennig i fwrw gwreiddiau ac i fagu plant.

“ Roedd yr Eisteddfod yn gyfle arbennig i hyrwyddo’r ardal ac fe fachodd y trigolion lleol ar y cyfle i gyflwyno y diwylliant cymunedol cymdeithasol; a diwylliedig lleol..

“Pob clod iddynt.”

Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal yr Eisteddfod yn Awst 2020 ond o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws bu’n rhaid gohirio ddwywaith ond fe lwyddwyd i’w chynnal yn Awst 2022 ac fe godwyd ton fawr o frwdfrydedd ar draws y Sir.

“Wedi’r Eisteddfod roeddwn yn awyddus i geisio cyfleu y bwrlwm a’r cyffro mewn darlun a fyddai yn gofnod gweladwy o garreg filltir bwysig yn hanes yr ardal ac fe es ati i dreulio dau fis yn paentio cyn cwblhau y darlun,”ychwanegodd Wynne

Mae’r llun, sydd nawr i’w weld yng Nghanolfan Rhiannon ar Sgwâr Tregaron dros gyfnod y Nadolig, wedi deillio o ddarllen Cywydd Y Cloi, cerdd o waith Y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, Talbont, un arall o fechgyn Tregaron 

Mae’r celfwaith yn cynnwys geiriau o gerdd Gwenallt â rhai o ddelweddau cofiadwy o’r Eisteddfod sy’n cynnwys tirlun Tregaron, yr enw Tregaron mewn llythrennau bras ar y bryn y tu ôl i Faes yr Eisteddfod, Cylch yr Orsedd yn Brynheulog a greuwyd gan weithwyr a ffermwyr lleol, cadair yr Eisteddfod a luniwyd gan Rees Thomas, Bow Street, ac aelodau’r Orsedd yn ymgymmull.

“Roedd yn dda gweld bardd buddugol yn istedd yng nghadair yr Eisteddfod Tregaron yn y Seremon’r Cadeiro ar y dydd Gwener,” medd Wynne.

Nodwedd arall o Faes yr Eisteddfod bellach yw’r monolith o lythrennau coch anferthol EISTEDDFOD mewn lleoliad amlwg ar Faes yr Eisteddfod ac yn Eisteddfod Tregaron erbyn canol yr wythnos roedd y llythrennau E F O D dan adael ISTEDD ar ôl (gair tafodieithol y Cardis) wedi diflannu o bosibl mewn gweithred o fwrgleriaeth neu yn fwy tebygol fel pranc mentrus gan un o Adar Tregaron.

Roedd yn Eisteddfod nodedig i’r artist am iddo gael ei anrhydeddu, gyda nifer o unigolion eraill â’r wisg werdd am ei gyfraniad i’r diwylliant Cymreig, yn Seremoni’r Orsedd ar y Maes ar ddydd Gwener yr Eisteddfod.

Mae’r darlun wedi ei baentio ar ganfas yn mesur 36”x24”