Church Services

SUNDAY, 1 May: Llandysul, 8am, communion; 11am, family service. Tregroes, 2pm, communion; 7.30pm, prayer and praise.

Cylch Cinio

NOS WENER, 15 Ebrill, cynhaliwyd cinio blynyddol y gwragedd yng Ngwesty’r Porth.Croesawyd y 53 oedd yn bresen-nol gan ein cadeirydd, Keith Evans ac roedd pawb yn falch iawn o weld y Parch Eric a Beryl Roberts yn ôl yn ein plith am y noson. Offrymwyd gras gan y Parch Roberts, cyn mynd ymlaen i fwynhau’r wledd.Ar ddiwedd y noson, darparwyd adloniant ar ein cyfer gan Fois y Gilfach.Prin fod angen dweud ein bod wedi cael noson hwylus, ddifyr a phleserus iawn yn eu cwmni, gydag amrywiaeth o ganeuon ac unawdau, heb anghofio wrth gwrs, ambell stori wnaeth hawlio tipyn o hwyl a chwerthin iach!Gwnaed y diolchiadau gan y Cyng Ken Howell a wnaeth hefyd nodi gwerthfawrogiad y Cylch o wasanaeth Richard Davies sydd wedi ymddeol o’i swydd fel ys-grifennydd y Cylch Cinio yn ystod y flwyddyn, yn dilyn blynyddoedd o wasanaeth clodwiw.Edrychwn ymlaen yn awr at dymor nesaf y Cylch a fydd yn dechrau ar nos Lun, 3 Hydref, eto yng Ngwesty’r Porth.

Piano

BU’R CANLYNOL yn llwyddiannus mewn arholiadau piano yn ddiweddar: Gwennan Evans, Bryniwan, gradd 7 ac Elliw Evans, Castellnewydd Emlyn, gradd 2.

The Computer Room

THE COMPUTER Room on the first floor of Llandysul Library is open to the public between 3pm and 5pm on the following Mondays: 9, 16 and 23 May; and 6, 13, 20 and 27 June.Facilities include 10 computers with access to Microsoft Office, an A3 photocopier, printer and scanner, and for those tracing their family history, free access to the genealogy sites Ancestry and Find My Past.These sessions are run by volunteers and are free (photocopies and prints are payable).

Cymdeithas Hanes

THE NEXT meeting of Llandysul & District Local History Society will be on Wednesday, 27 April, at 7.15pm at Neuadd Tysul hall.A talk, entitled ‘Wife to moor to lift turf: The daily lives of an elderly Ceredigion couple at the end of the 18th century’, will be given by Michael Freeman.