Mae Urdd Gobaith Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Cyngor Gwynedd yn cynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2028.
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Rydym wrth ein bodd o glywed bod aelodau cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno'n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd 2028 ac yn hynod ddiolchgar i’r awdurdod lleol am ddangos cymaint o gefnogaeth i'r mudiad a'r ŵyl ieuenctid fel ei gilydd.
“Rydym wrthi’n trafod lleoliadau posib ar gyfer cynnal yr Eisteddfod.
“Edrychwn ymlaen at gadarnhau union safle’r ŵyl mewn cyfarfod cyhoeddus dros yr haf ac i ddechrau trefnu gyda gwirfoddolwyr lleol.”
Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Gwynedd oedd Y Bala yn 2014, a chyn hynny Glynllifon ger Bangor yn 2012 a Llŷn yn 1998.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae’n fraint gallu cadarnhau fod Cyngor Gwynedd yn gwahodd Eisteddfod yr Urdd i’n sir yn 2028.
“Mae gan Wynedd hanes hir a llewyrchus o fod yn cydweithio gyda’r Urdd ac o groesawu ieuenctid o bob rhan o Gymru a thu hwnt yma am yr wythnos liwgar llawn hwyl.
“Rydan ni’n edrych ymlaen i fod y trafod yr holl bosibiliadau gyda’r mudiad dros y misoedd nesaf er mwyn gwneud yn siŵr bydd yr ŵyl yn 2028 yr orau eto.
“Mae’r Urdd yn cynnig gymaint i blant a phobl ifanc a dwi’n gwybod y bydd selogion yr eisteddfod yn edrych ymlaen yn barod.
“Mae’n bwysig hefyd ein bod yn manteisio ar y cyfle i wneud yn siŵr fod y plant a’r teuluoedd hynny o Wynedd sydd efallai erioed wedi profi bwrlwm Eisteddfod yr Urdd o’r blaen yn cael y cyfle i fynd ac chael bod yn rhan o’r digwyddiad gwbwl Gymraeg a Chymreig unigryw hwn.”
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.