Bethany Celyn yw golygydd creadigol newydd Cyhoeddiadau Barddas.
Yn wreiddiol o Ddinbych, mae Bethany bellach yn byw yng Nghaernarfon ac yn treulio llawer o’i hamser yn Aberystwyth hefyd.
Graddiodd o King’s College London yn 2016 gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg a graddiodd o Brifysgol Bangor gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ysgrifennu Creadigol Cymraeg.
Meddai Aneirin Karadog, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Barddas: “Mae’n bleser gennym i groesawu Bethany Celyn atom fel aelod brwdfrydig a hynod greadigol o deulu Barddas.
“Mae gan Bethany syniadau ffres a gweledigaeth gyffrous ar gyfer Cyhoeddiadau Barddas.
“Wedi cyfnod llwyddiannus o bron i bum mlynedd pan fu Alaw Mai Edwards yn rôl y golygydd creadigol, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i weld ei holynydd, Bethany, yn adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd.
“Edrychwn ymlaen i weld Bethany Celyn hefyd yn symud Cyhoeddiadau Barddas ymlaen gan hefyd weithio ar wireddu mwy ar nod y Gymdeithas Gerdd Dafod, sef hybu’r gynghanedd a barddoniaeth Gymraeg ymysg y cyhoedd.”
Ers blynyddoedd bellach, mae Bethany wedi gweithio yn y byd llenyddiaeth a chelfyddydau fel bardd comisiwn a chantores-gyfansoddwraig gan ymddangos yn helaeth ar y radio a’r teledu.
Yn ddiweddar gweithiodd yn y trydydd sector gyda phobl ifanc bregus a digartref, ac mae hefyd wedi gweithio ym myd theatr a chydag ysgolion.
Meddai Bethany: “Dwi’n edrych ymlaen yn arw at gydio’n awenau creadigol y rôl a chael dylanwad ar y llyfrau sy’n cyrraedd ein silffoedd.
“Braint fydd cael cydweithio gyda’r holl olygyddion a beirdd a rhoi llwyfan i’r sbectrwm eang o leisiau talentog sydd yma yng Nghymru.”



-with-her-son-Rufus-her-partner-and-younger-son-Noah.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.