Mae’r gyfres ddogfen newydd sbon ar S4C, Stori’r Iaith, wedi bod yn mynd â ni ar drywydd hanes y Gymraeg a pherthynas unigryw pedwar cyflwynydd gwahanol â’r iaith.
Mae’r Gymraeg wedi bod mewn sefyllfa fregus fwy nag unwaith, a dros fil o flynyddoedd wedyn, mae o yma o hyd. Mae’n stori gwbl rhyfeddol ac yn y bennod olaf, fydd ar S4C ar ddydd Gŵyl Dewi, mi fydd Elis James yn edrych yn ôl dros ganrif heriol yn hanes yr iaith Gymraeg ac ar rai o’r newidiadau mwyaf tyngedfennol yn ei hanes gan hefyd holi am ei dyfodol.
Cafodd Elis, sy’n gomedïwr, yn ddarlledwr ac yn bodlediadwr ei eni’n Hwlffordd, Sir Benfro, a treuliodd ei blentyndod yng Nghaerfyrddin ar aelwyd gwbl Gymraeg ei iaith.
Erbyn hyn, mae’n byw yn Llundain gyda’i bartner, Isy o Swydd Derby, a’u dau o blant:
“Mae ein stori ni’n debyg i stori miloedd o bobl...Bydden i’n teimlo’n euog iawn taswn i ddim yn treial pasio hwnna ymlaen, ond fi’n trio fy ngorau.”
Moment arbennig i Elis yn y rhaglen yw cwrdd â’r ieithydd o Sir Fôn, yr Athro David Crystal. Mi wnaeth darllen ei lyfr, Language Death, ateb llawer o gwestiynau oedd gan Elis ac mae o’n ei edmygu’n fawr.
Mae 6,000 o ieithoedd yn y byd, gydag un yn marw pob pythefnos, ond yn ôl David Crystal, nid yw’r Gymraeg ar y rhestr yma. Felly sut y mae’r iaith wedi goroesi cystal?
Ers 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae un iaith leiafrifol arall wedi cyrraedd hyn yn barod, sef Basgeg. Mae Elis yn ymweld â Donostia, neu San Sebastian, ardal ble mae’r iaith ar ei gryfa’. Mae’n clywed am gyfnod pan roedd yr iaith wedi’i wahardd a’r adfywiad anhygoel sydd yn golygu ei bod hi’n mynd o nerth i nerth.
Roedd canol yr ugeinfed ganrif yn gyfnod cythryblus i’r iaith a bydd Elis yn mynd ar drywydd hanes rhai o’r arwyr sydd wedi brwydro dros y Gymraeg.
Yn eu plith, Trefor ac Eileen Beasley a’u safiad o wrthod talu bil treth tan eu bod nhw’n derbyn un Cymraeg, Saunders Lewis a’i araith enwog Tynged yr Iaith ym 1962, Gwynfor Evans yn herio’r llywodraeth am fynd yn ôl ar eu addewid o sefydlu sianel Gymraeg a Dafydd Iwan a’r ymgyrch am arwyddion dwyieithog.
“Mae’n rhaid i chi rhoi gymaint o barch i’r protestwyr a’r pobl oedd yn ymgyrchu ar y pryd.” Meddai Elis, “achos ma beth wnaethon nhw – dyw e ddim byd llai ‘na chwyldro.”
Mewn sgwrs gyda chriw o gefnogwyr pêl-droed Cymru bydd Elis yn trafod y newid mewn agweddau tuag at y Gymraeg ar y terasau, a sut mae hynny wedi treiddio trwy gymdeithas yn ehangach dros y blynyddoedd diweddar.
Bydd Elis hefyd yn holi am ddyfodol yr iaith, a pha mor barod ydym ni i’r newid ieithyddol fydd yn digwydd wrth ddenu siaradwyr newydd.
Meddai Elis: “Mae Cymraeg yn ddarn o jigsô’r byd...Ma’ fe yn fwy ‘na ffordd o gyfathrebu, ma’ fe’n ffordd o fyw, yn ffordd o edrych ar y byd.”
Stori’r Iaith, Nos Fercher 1 Mawrth 9.00, S4C, Isdeitlau Saesneg .
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill.
Cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.