Troi am Glwb Pêl droed Penrhyn-coch fu hanes aelodau’r Cylch Cinio ar nos Wener Mehefin 9fed ar noson braf o haf am bryd blasus o fwyd a chwmnïaeth ddifyr.

Y Prifardd a’r cerddor amryddawn Twm Morys, Llanystumdwy oedd ein gẁr gwâdd ac fe lwyddodd i rannu ei athrylith drwy siarad am Y Gôg neu’r Gwcw a hynny mewn ffordd wahanol a difyr iawn.

Medrai restri enw’r gwcw mewn degau o ieithoedd gwahanol a dyfynnu cerddi ar y thema o bedwar ban y byd, a hynny ar ei gof. Roedd yn wybodus iawn am gyfeiriadau at y gôg mewn cerddi ac alawon gwerin Cymraeg dros y canrifoedd, rhai yn gyfarwydd ac eraill yn llai hysbys.

Nid bob nos y bydd rhywun yn cael y cyfle i dreulio noson yng nghwmni Prifardd ac roedd hon yn noson gofiadwy a hwyliog iawn.

Mae’r cyfuniad o fardd a chanwr a chymeriad lliwgar yn gallu cyfoethogi cymdeithas ac mae llwybr ei fywyd hyd yma yn un amrywiol iawn.

Cafodd ei eni yn Rhydychen a’i fagu yn Llanystumdwy yng Ngwynedd ac yno cafodd ei addysg gynradd, bu’n ddisgybl yn yr Amwythig cyn dychwelyd i Gymru i Ysgol Gyfun Aberhonddu i astudio ar gyfer lefel A Cymraeg ac wedyn i gael ei radd yn y Brifysgol yn Aberystwyth mewn Astudiaethau Celtaidd.

Treuliodd ddegawd yn Llydaw a bu’n darlithio ym Mhrifysgol Rennes.

Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth a dwy gyfrol arall ar y cyd gyda’i riant Jan Morris.

Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn 2003 am ei awdl Drysau. Twm yw golygydd y cylchgrawn Barddas ac mae’n adnabyddus fel prif ganwr Bob Delyn a’r Ebillion

Wrth ddiolch iddo ar ran yr aelodau disgrifiodd Cynog Dafis Twm Morys fel cymeriad o dalent aruthrol ac aml ochrog gan godi’r cwestiwn a fyddai Cymru yn bod heb ganeuon gwerin am i’r deffroad yn y traddodiad gwerin gyfrannu yn helaeth at barhad ein ffordd o fyw fel cenedl.

Enillwyd y raffl gan Dewi Hughes, Llanbadarn Fawr.

Bydd cyfnod y cadeirydd John Williams yn dod i ben yng nghyfarfod mis Gorffennaf 2023 a chyhoeddwyd bod enw wedi ei dderbyn i’w ystyried ar gyfer Is-Gadeirydd y Cylch Cinio.

Dymunwyd yn dda i Paul Davies a fydd yn dilyn Vaughan Griffiths yn y gadair ymhen y flwyddyn, yn ôl y drefn arferol.

Gwnaeth Geoff Davies apêl ar ran Rali Geir Ceredigion am wirfoddolwyr i stiwardio’r rali sydd i’w chynnal ar ddechrau Medi.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Wener Gorffennaf 14eg.